Check Availability
MENU
Vine House logo

"Rydyn ni newydd dod adref o egwyl am ddwy noson yn Vine House, Cegidfa. Roedd yn ddewis gwych. Croeso cynnes, ystafell hyfryd, bwyd da iawn ac ardal brydferth i deithio ynddi. Yn ei gymeradwyo’n fawr."

LLETY HUNANDDARPAR

Yn yr ardal i lawr staer, â’i thrawstiau pren, ceir cegin fach hir a chul, yn llawn cyfarpar sy’n cynnwys popty trydan, oergell, microdon a pheiriant golchi. Mae ffenestr yn tremio dros eich man parcio a’r lôn. Mae yna fwrdd cinio a phedair cadair. Mae ardal y lolfa’n cynnwys gwely soffa cyfforddus, set deledu ddigidol a chwaraewr DVD.

Gweld Mwy

LLETY GWELY A BRECWAST VINE HOUSE

Croeso i Vine House, sef llety Gwely a Brecwast cyfforddus yng Nghanolbarth Cymru, mewn eiddo mawr o’r 18fed ganrif mewn pentref gwledig swynol.

Mae llety Gwely a Brecwast Vine House ym mhentref hyfryd Cegidfa, ddwy filltir yn unig o’r Trallwng, ac mae’n darparu llety gwely a brecwast a llety hunanddarpar mewn lleoliad sy’n rhagorol i unrhyw un sy’n dymuno anturio trwy ardaloedd prydferth Canolbarth a Gogledd Cymru.

Sefydlodd Eve Pearce lety Gwely a Brecwast Vine House ym 1998, ac mae wedi mwynhau croesawu gwesteion i’r eiddo ers hynny. Mae Eve wedi byw yng Nghanolbarth Cymru gydol ei hoes ac mae’n frwd ynglŷn â’r gororau ac yn ymfalchïo mewn helpu ei gwesteion yn y llety gwely a brecwast a’r llety hunanddarpar i fwynhau aros mewn amgylchoedd prydferth. Mae’n gadarn o blaid gwneud mwy na’r galw i sicrhau bod ei gwesteion yn gyfforddus, felly mae yna hambyrddau te a choffi gyda chacenni cri cartref traddodiadol i groesawu pobl i’r ddwy ystafell yn Vine House.

Mae’r llety gwely a brecwast yn cynnwys dwy ystafell wely en-suite y gall cyplau neu westeion sengl eu harchebu ar wahân neu y gall teulu neu grwpiau o ffrindiau eu harchebu gyda’i gilydd. Ni chaniateir ysmygu nac anifeiliaid anwes yn y naill ystafell na’r llall, ac mae croeso i blant o bob oedran. Mae gwesteion yn cael eu hallweddi eu hunain. Mae ystafelloedd y gwesteion ar wahân i weddill y tŷ, sy’n sicrhau preifatrwydd i’r gwesteion, gan gynnwys ystafell frecwast a lolfa â thân go iawn.

Mae Vine House hefyd yn cynnig llety hunanddarpar yn Yr Hen Stabal, sef ysgubor sydd wedi’i drosi’n glyd yn gyfagos i’r prif lety gwely a brecwast.

Mae Vine House yn ddewis llety gwely a brecwast delfrydol i gerddwyr sy’n dilyn llwybr Clawdd Offa neu Lwybr Glyndŵr, gan ei fod o fewn cyrraedd rhwydd i’r ddau. Er mwyn gwneud eich amser yn aros yma’n haws, mae Eve yn fodlon casglu gwesteion sy’n cyrraedd ar droed, neu ar y trên, a mynd â nhw yn ôl i’r orsaf reilffordd neu i’r lle y mae eu siwrnai gerdded yn parhau ohono pan ddaw eu cyfnod yn aros yma i ben.

Mae Eve yn edrych ymlaen at eich croesawu chi.

CYFEIRIAD

Vine House, Oak Lane, Cegidfa,
Y Trallwng, Powys SY21 9NH, Cymru

FFÔN

+44 (0) 1938 554431

E-BOST

postmaster@vinehouse1829.co.uk

Dyma lle rydyn ni!

Mae’n hawdd dod o hyd i Vine House – o Ganol Tref y Trallwng, anelwch am y Rheilffordd Gul a dilyn yr arwyddion ffordd i Gegidfa (2 filltir). Mae Vine House yn agos at gefn yr Eglwys.

Gweld mapiau google »